Mae Truth Department yn cynhyrchu ffilmiau sinematig a chofiadwy i’w dosbarthu’n fyd-eang ar bob platfform.

Buddsoddwyr

Mae Truth Department yn cyhoeddi cyfle cyffrous i fuddsoddi yn nyfodol ffilmiau dogfen sinematig.

Dros y degawd diwethaf a rhagor, mae awch y gynulleidfa am ffilmiau dogfen annibynnol wedi tyfu’n aruthrol, gyda thŵf mewn digwyddiadau sinema a dyfodiad y gwasanaethau ffrydio yn gwneud eu gorau i fwydo’r angen.

Rydym eisoes wedi profi bod ganddom y ddawn brin am sylwi ar a datblygu’r potensial sinematig mewn straeon go iawn.  Yn wir, Truth Department yw’r unig gwmni cynhyrchu yng Nghymru sy’n ymroddedig yn llwyr i grefft a busnes y gweithgarwch cynyddol hwn.

Gweithiwn gyda chyfarwyddwyr talentog i ddatblygu a phecynnu eu ffilmiau, ac wedyn ddefnyddio ein rhwydwaith helaeth yn y farchnad fyd-eang i godi’r arian cynhyrchu anghenrheidiol, tra’n marchnata’r ffilm i asiantau a dosbarthwyr, ac, yn y pen draw, gynulleidfaoedd.  Gan fod ffilmiau dogfen fel arfer yn costio llawer llai i ddatblygu a chynhyrchu na ffilmiau ffuglen, mae’r potensial i adennill arian a gwneud elw gymaint yn fwy.

Ar hyn o bryd, rydym yn codi arian datblygu o ffynonellau cyhoeddus sy’n brin ac yn hynod gystadleuol.  O ganlyiad i’r prinder arian datblygu, mae rhaid gwrthod prosiectau addawol a gynigir i ni gan gyfarwyddwyr talentog.  Mae hyn yn cyfyngu ar ein gallu i dyfu’r busnes yn ddirfawr.  Gyda chefnogaeth buddsoddwyr, gall Truth Department baratoi rhagor o ffilmiau a thrwy hynny, cawn gynyddu’r llif o ffilmiau trwy’r cwmni o’r egin-syniad a’r cyfnod datblygu, eu cynhyrchu, eu marchnata hyd nes eu dosbarthu’n fyd-eang.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni yn y cyfnod cyffrous newydd hwn yn natblygiad Truth Department, mae croeso i chi gysylltu i drefnu galwad gyda Chyfarwyddwr y Cwmni, Dewi Gregory, neu fe gewch nodi eich diddordeb yma ac fe’ch hysbysir pan gyhoeddir y prosbectws SEIS.