Mae Truth Department yn cynhyrchu ffilmiau sinematig a chofiadwy i’w dosbarthu’n fyd-eang ar bob platfform. Gan weithio gyda thalent newydd o Gymru a chyfarwyddwyr rhyngwladol profiadol, mae Truth Department yn rhoi sglein y sgîn fawr ar straeon bob dydd, gan ennyn ymateb emosiynol a myfyriol gan y gwyliwr, a’i ysgogi i weithredu weithiau.