Donna yw’r ffilm ddogfen hir gyntaf gan y gwneuthurwr ffilmiau arobryn Jay Bedwani. Gyda Donna, mae Bedwani’n dychwelyd i wthrych ei ffilm fer o 2013 a enillodd wobr Iris am y Ffilm Brydeinig Orau, My Mother, sef yr ddrychwraig delwau o San Francisco, Donna Personna. Y canlyniad yw darlun didwyll ac agos o fenyw drawsryweddol ysbrydoledig sy’n dysgu byw’n ddiffuant fel hi ei hun.
Mae arddull arsylwi tawel Bedwani’n dwyn eiliadau pwerus a chyfareddol. Mae Donna’n ffilm sy’n dangos y cryfder gellid ei grynhoi o’ch cymuned ac sy’n profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddarganfod eich gwir lais a blodeuo.
Cynhyrchir Donna ar y cyd â Films de Force Majeure a’i huwch-gynhyrchu gan MisFits Entertainment, gyda Chefnogaeth yn y DU gan Ffilm Cymru Wales, BFI NETWORK a Chymru Greadigol, ac yn Ffrainc gan CNC, Lyon Capitale TV a Procirep-Angoa. Cyhoeddir dosbarthwr y ffilm yn y DU yn fuan.
Cynhelir y dangosiad cyntaf yn y byd yng ngŵyl ffilmiau Frameline yn San Francisco, yn Mehefin 2022, cyn ei rhyddhau yn y DU ac Iwerddon gan Bohemia Media yng Ngorffennaf.