Trwy gydol ei oes, gwefr y syrcas oedd yn ganolog i fywyd yr acrobat o Ffrainc, Sebastién Bruas, ac nid oedd angen dim byd arall arno. Bellach yn hŷn na gweddill y cwmni, mae’n cael trafferth wynebu diwedd ei yrfa sy’n nesáu. Heb yr un dyddiad arall yn ei ddyddiadur, gallai’r daith hon i Puglia, yng ngwres yr haf Eidalaidd, fod yr olaf iddo. Mae ei famau anwesol ym Mharis yn teimlo’i ing, tra’n ofni pob cam gwag. Eto, mae’r wefr yr un mor fyw ag erioed. Mae ffilm ddogfen hyfryd a hamddenol Jay Bedwani’n cyfleu naid olaf ieuenctid hir a delfrydol.
Dosbarthir Stretch yn Taiwan gan Gagaoolala. Fe’i dosbarthir yn rhyngwladol hefyd yn netholiad arbennig FilmDoo Close to his Chest’ sydd ar gael trwy blatfformau adnabyddus, yn cynnwys Short of The Week.
Asiant: Feelsales
Dosbarthir Stretch yn Taiwan gan Gagaoolala. Fe’i dosbarthir yn rhyngwladol hefyd yn netholiad arbennig FilmDoo collection ‘Close to his Chest’, sydd ar gael trwy blatfformau adnabyddus.
Gwyliwch Stretch
Vimeo
Amazon (UK)
Amazon (US)