Y drosedd amgylcheddol fwya mewn hanes”, meddai Gordon Brown am hon: Yn y ffilm hon gan y dogfenwyr profiadol Erik Pauser a Dylan Williams, mae alltud o’r goedwig, newyddiadurwraig eofn a chyflwynydd gorsaf radio danddaearol yn gorsegyn ofn a bygythiadau i’w lladd wrth geisio dilyn trywydd yr arian a dadorchuddio stori am ddinistr dideimlad, trachwant anniwall a llwgrwobrwyo ar raddfa epig.
Ar ôl ei dangosiad cyntaf yn adran Meistri Gŵyl Ffilimau Dogfen Ryngwladol Amsterdam, dosbarthwyd The Borneo Case mewn theatrau yng ngwledydd Sgandinafia, a chan sawl darlledwr cenedlaethol yn Ewrop, gan cynnwys SVT, ZDF/ARte, NRK, ERR, YLE, IKON, gyda chefnogaeth gan Ffilm Cymru Wales, Sefydliadau Ffilm Sweden a Denmarc, BritDoc/Bertha, Ewrop Greadigol a Chronfa Ffilm a Theledu Nordisk. Hefyd, cynhyrchodd Truth Department raglen tu ôl i’r llenni yn dwyn y teitl ‘Cyfrinach Borneo’, i’r darlledwr Cymraeg, S4C.
Asiant: Taskovski Films