Mae Truth Department yn cynhyrchu ffilmiau sinematig a chofiadwy i’w dosbarthu’n fyd-eang ar bob platfform.
Orion: The Man Who Would Be King (2015)

Mae ORION: The Man Who Would Be King yn ffilm gan Jeanie Finlay sy’n adrodd stori Jimmy Ellis – canwr anhysbys a godwyd o unman a’i wthio i’r sbotolau fel rhan o gynllun gwallgof lle roedd yn gwisgo mwgwd ac esgus taw Elvis ydoedd, yn ôl o’r bedd.  Gyda hunaniaeth ffuglenol wedi’i rhwygo o dudalennau o nofel ysgubol Gail Brewer Giorgio, cefnogaeth man geni roc a rôl Sun Records, a llais a oedd yn union fel un Presley, ffrwydrodd y cynllun a fathwyd yn ystod y misoedd ar ôl marwolaeth Presley gan lwyddo i ddenu cwlt o ddilynwyr – a dyna sut dechreuodd y myth bod Elvis yn fyw o hyd.  Mae hanes Orion yn profi bod y gwir yn fwy rhyfedd na ffuglen.  Dyma’r hanes tu ôl i’r stori yna.  Ond pwy oedd y gŵr tu ôl i’r mwgwd?

Dangoswyd Orion: The Man Who Would Be King gyntaf yng Ngŵyl Ffilm Tribeca, cyn teithio i sawl gŵyl ffilm ac ennill sawl gwobr, gan gynnwys gwobr BIFA (Y Gwobrau Ffilm Annibynnol Prydeinig).

Asiant: The Film Sales Company

Gwyliwch Orion: The Man Who Would Be King (heblaw UDA a Canada)
Gwyliwch Orion: The Man Who Would Be King (UDA a Canada)